Home

Welcome to the Conwy Beekeepers’ Association  website

Conwy BKA was founded in 1978 and now has over 150 members, including about six of the original members. We are based in the county of Conwy in beautiful North Wales, and we have members all over the county and beyond. Many have only one hive of bees and some have over 60 hives. We have many members just starting with bees, and a lucky few who have had bees for over 60 years, including one whose family will have kept bees continuously for 100 years in 2012.   We all love being with our bees.

We have organized the 700-year old Conwy Honey Fair and the Conwy Seed Fair since 1990, and these have become major events again.  We raise funds for Bees for Development at both Fairs, to encourage people in the developing world to become self-reliant through beekeeping.

In 2004, we initiated the Conwy Feast, now a hugely popular annual event; and more recently the new National Beekeeping Centre for Wales. These are now run by separate Community Interest Companies.

Our aim is to encourage people to keep bees, and to raise public awareness of the importance of bees, and to produce honey!

We hold monthly lecture meetings at Craig y Don Community Centre in the winter, Taster Days in the summer for beginners, regular meetings with the bees at our apiary at Tal y Cafn, and a very popular winter evening course. The course is held at Henfaes Research Centre near Bangor, in association with the National Beekeeping Centre for Wales. The course attracts new beekeepers from all over North Wales, and many become members of Conwy BKA.

Conwy BKA is affiliated to the Welsh Beekeepers’ Association.

Visit the WBKA website for info on other BKA’s in Wales.

We hope you enjoy our website, and we would welcome your comments.

Croeso i wefan Cymdeithas Gwenynwyr Conwy.

Sefydlwyd CGC yn 1978, ac erbyn hyn mae gennym dros 150 o aelodau, a chwech ohonynt yn aelodau ers y cychwyn. Rydym wedi ein lleoli yn sir Conwy, un o ardaloedd hardd gogledd Cymru, a daw ein haelodau o bob rhan o’r sir a thu hwnt. Rydym i gyd yn cael mwynhad o’n gwenyn. Un cwch sydd gan nifer fawr o’n haelodau ond mae gan ambell un gynifer a 60, ac mae profiad gwenyna yn amrywio hefyd o’r niferoedd gwenynwyr newydd i’r ychydig sy’n gwenyna ers dros 60 mlynedd. Bu teulu un ohonom yn gwenyna’n ddidor ers canrif!

Ers 1990, bu’r gymdeithas yn trefni ffeiriau hynafol Conwy, sef y Ffair Fel sy’n 700 mlwydd oed, a’r Ffair Hadau, ac maent bellach wedi dod yn boblogaidd iawn, ac yn llwyddiant unwaith eto. Yn ystod y ffeiriau, byddwn yn codi arian ar gyfer “Bees for Development”, elusen sy’n cynorthwyo pobl yn y trydydd byd i ddod yn hunan- gynhaliol drwy gadw gwenyn.

Yn 2004, buom yn flaenllaw yn sefydlu Gwledd Conwy sydd bellach yn ddigwyddiad blynyddol hynod boblogaidd, ac hefyd, yn fwy diweddar,sefydlwyd Canolfan Gwenyna Cenedlaethol i Gymru. Erbyn hyn mae’r ddau sefydliad yn cael eu gweinyddu gan gwmniau cymunedol pwrpasol.

Mae ganddom dri nod arbennig, sef

  • I annog pobl i gadw gwenyn.
  • I godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd gwenyn.
  • I gynhyrchu mel.

Gwahoddir siaradwyr i gyfarfodydd misol yn ystod y gaeaf, yng nghanolfan cymunedol Craig y Don, ac yn yr haf cynhaliwn ddyddiau arbennig ar gyfer dechreuwyr, a chyfarfodydd ymarferol yn ein gwenynfa ni yn Nhal y Cafn. Trefnir cwrs wythnosol dros fisoedd y gaeaf, mewn cydweithrediad a’r Ganolfan Wenyna Cenedlaethol, yng nghanolfan ymchwil Henfaes ger Bangor. Daw gwenynwyr newydd o bob cwr o ogledd Cymru iddo a bydd nifer fawr ohonynt wedyn yn ymaelodu a CGC.

Mae CGC yn cydweithio a chymdeithas gwenynwyr Cymru (WBKA).

Ewch i wefan WBKA am fwy o wybodaeth am gymdeithasau eraill Cymru.

Gobeithio y gwnewch fwynhau ein gwefan, ac mae croeso i chi ymateb a rhoi eich sylwadau.